Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 10

10
Gorchfygu'r Amoriaid
1Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg. 2Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff. 3Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud, 4“Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch â Josua a'r Israeliaid.” 5Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni. 6Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, “Paid â gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn.”
7Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr. 8A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid â'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen.” 9Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar ôl teithio trwy'r nos o Gilgal. 10Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chwâl o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda. 11Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf.
12Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngŵydd yr Israeliaid:
“Haul, aros yn llonydd yn Gibeon,
a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.”
13Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar#10:13 Neu, yr Uniawn.. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan. 14Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel.
Lladd Pum Brenin yr Amoriaid
15Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn ôl i'r gwersyll yn Gilgal. 16Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda. 17Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda, 18dywedodd Josua, “Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio. 19Peidiwch chwithau â sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch â gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael.” 20Er i Josua a'r Israeliaid wneud lladdfa fawr iawn yn eu mysg a'u difa, dihangodd rhai ohonynt a chyrraedd y dinasoedd caerog. 21Wedi hynny dychwelodd yr holl fyddin yn ddiogel i'r gwersyll at Josua yn Macceda, heb neb yn yngan gair yn erbyn yr Israeliaid.
22Yna dywedodd Josua, “Agorwch geg yr ogof, a dewch â'r pum brenin allan ataf oddi yno.” 23Gwnaethant hynny, a dod â'r pum brenin allan ato, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon. 24Wedi iddynt ddod â'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wŷr Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, “Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn.” Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau. 25Yna dywedodd Josua wrthynt, “Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd â hwy.” 26Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr. 27Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw.
Goresgyn Tiroedd y De
28Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin â'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho. 29Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni. 30Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho. 31Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Libna i Lachis, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni. 32Rhoddodd yr ARGLWYDD Lachis yn llaw Israel, ac fe'i gorchfygodd hi yr ail ddiwrnod a'i tharo hi a phawb oedd ynddi â'r cleddyf, yn union fel y gwnaeth i Libna. 33Yna daeth Horam brenin Geser i fyny i gynorthwyo Lachis, ond trawodd Josua ef a'i fyddin, heb arbed neb. 34Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni. 35Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis. 36Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni. 37Goresgynnodd hi a tharo â'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon. 38Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni. 39Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd â'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.
40Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel. 41Trawodd Josua hwy o Cades-barnea hyd at Gasa, ac o wlad Gosen i gyd hyd at Gibeon. 42Goresgynnodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a'u tiroedd mewn un cyrch am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd dros Israel. 43Yna fe ddychwelodd Josua a holl Israel gydag ef i'r gwersyll yn Gilgal.

Dewis Presennol:

Josua 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda