Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
“Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor
â geiriau diwybod?
Gwna dy hun yn barod i'r ornest;
fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
“Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear?
Ateb, os gwyddost.
Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!
Pwy a estynnodd linyn mesur arni?
Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,
a phwy a osododd ei chonglfaen?
Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,
a'r holl angylion yn gorfoleddu,
pan gaewyd ar y môr â dorau,
pan lamai allan o'r groth,
pan osodais gwmwl yn wisg amdano,
a'r caddug yn rhwymyn iddo,
a phan drefnais derfyn iddo,
a gosod barrau a dorau,
a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,
ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?
“A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore
a dangos ei lle i'r wawr,
er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,
i ysgwyd y drygionus ohoni?
Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,
ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,
a thorrir y fraich ddyrchafedig.
“A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,
neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
A agorwyd pyrth angau i ti,
neu a welaist ti byrth y fagddu?
A fedri di ddirnad maint y ddaear?
Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
“Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,
ac i le tywyllwch,
fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,
a gwybod y llwybr i'w thŷ?
Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,
a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!