Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 38

38
Yr ARGLWYDD yn Ateb Job
1Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:
2“Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor
â geiriau diwybod?
3Gwna dy hun yn barod i'r ornest;
fe holaf fi di, a chei dithau ateb.
4“Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear?
Ateb, os gwyddost.
5Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!
Pwy a estynnodd linyn mesur arni?
6Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,
a phwy a osododd ei chonglfaen?
7Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,
a'r holl angylion yn gorfoleddu,
8pan gaewyd ar y môr â dorau,
pan lamai allan o'r groth,
9pan osodais gwmwl yn wisg amdano,
a'r caddug yn rhwymyn iddo,
10a phan drefnais derfyn iddo,
a gosod barrau a dorau,
11a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,
ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?
12“A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore
a dangos ei lle i'r wawr,
13er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,
i ysgwyd y drygionus ohoni?
14Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,
ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
15Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,
a thorrir y fraich ddyrchafedig.
16“A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,
neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
17A agorwyd pyrth angau i ti,
neu a welaist ti byrth y fagddu?
18A fedri di ddirnad maint y ddaear?
Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
19“Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,
ac i le tywyllwch,
20fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,
a gwybod y llwybr i'w thŷ?
21Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,
a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!
22“A fuost ti yn ystordai'r eira,
neu'n gweld cistiau'r cesair?
23Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,
at ddydd brwydr a rhyfel.
24Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,
ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?
25“Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,
a llwybr i'r daranfollt,
26i lawio ar dir heb neb ynddo,
a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,
27i ddigoni'r tir diffaith ac anial,
a pheri i laswellt dyfu yno?
28“A oes tad i'r glaw?
Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?
29O groth pwy y daw'r rhew?
A phwy a genhedlodd y llwydrew,
30i galedu'r dyfroedd fel carreg,
a rhewi wyneb y dyfnder?
31A fedri di gau cadwynau Pleiades,
neu ddatod rhwymau Orion?
32A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,
a thywys yr Arth gyda'i phlant?
33A wyddost ti reolau'r awyr?
A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?
34“A fedri di alw ar y cwmwl
i beri i ddyfroedd lifo drosot?
35A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,
iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?
36Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,
a deall i'r niwl?
37Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?
A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,
38nes bod llwch yn mynd yn llaid,
a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?
39“Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,
a diwallu angen y llewod ifanc,
40pan grymant yn eu gwâl,
ac aros dan lwyn am helfa?
41Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frân,
pan waedda'r cywion ar Dduw,
a hedfan o amgylch heb fwyd?”

Dewis Presennol:

Job 38: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda