Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno, a gofidio dros y tlawd? Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg; pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch. Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd, daeth dyddiau gofid arnaf. Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul; codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth. Yr wyf yn frawd i'r siacal, ac yn gyfaill i'r estrys. Duodd fy nghroen, a llosgodd f'esgyrn gan wres. Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf, a'm ffliwt i seinio galar.”
Darllen Job 30
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 30:25-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos