Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 28

28
Molawd i Ddoethineb
1Y mae gwythïen i arian,
a gwely i'r aur a burir.
2Tynnir yr haearn o'r ddaear,
a thoddir y garreg yn gopr.
3Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch,
a chwilio hyd yr eithaf
am y mwyn yn y tywyllwch dudew.
4Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb;
fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr.
Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl,
gan siglo'n ôl ac ymlaen.
5Ceir bwyd o'r ddaear,
eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.
6Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,
a llwch aur sydd ynddi.
7Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,
ac nas gwelwyd gan lygad barcud,
8ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,
ac na theithiodd y llew arno.
9Estyn dyn ei law am y gallestr,
a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.
10Egyr dwnelau yn y creigiau,
a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.
11Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,
a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.
12Ond pa le y ceir doethineb?
a pha le y mae trigfan deall?
13Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,
ac nis ceir yn nhir y byw.
14Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”;
dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.”
15Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani,
na phwyso'i gwerth mewn arian.
16Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir,
nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.
17Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial,
na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.
18Ni bydd sôn am gwrel a grisial;
y mae meddu doethineb yn well na gemau.
19Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia,
ac nid ag aur coeth y prisir hi.
20O ble y daw doethineb?
a phle mae trigfan deall?
21Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw,
a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.
22Dywedodd Abadon#28:22 H.y., Mangre dinistr. a marwolaeth,
“Clywsom â'n clustiau sôn amdani.”
23Duw sy'n deall ei ffordd;
y mae ef yn gwybod ei lle.
24Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear,
a gweld popeth sy dan y nefoedd.
25Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt,
a rhannu'r dyfroedd â mesur,
26a gosod terfyn i'r glaw,
a ffordd i'r mellt a'r taranau,
27yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi,
fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.
28A dywedodd wrth ddynolryw,
“Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb,
a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.”

Dewis Presennol:

Job 28: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda