Atebodd Job: “Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid. O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan! Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau â dadleuon. Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf. Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi? Na, ond fe roddai sylw imi. Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
Darllen Job 23
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 23:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos