Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 16

16
1Atebodd Job:
2“Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn;
cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.
3A oes terfyn i eiriau gwyntog?
Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?
4Gallwn innau siarad fel chwithau,
pe baech chwi yn fy safle i;
gallwn blethu geiriau yn eich erbyn,
ac ysgwyd fy mhen arnoch.
5Gallwn eich calonogi â'm genau,
a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.
6“Os llefaraf, ni phaid fy mhoen,
ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.
7Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf;
anrheithiaist fy holl gydnabod.
8Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;
saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.
9Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,
ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;
llygadrytha fy ngelynion arnaf.
10Cegant yn wawdlyd arnaf,
trawant fy ngrudd mewn dirmyg,
unant yn dyrfa yn f'erbyn.
11Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,
a'm taflu i ddwylo'r anwir.
12Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;
cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;
gosododd fi yn nod iddo anelu ato.
13Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;
trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,
a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.
14Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;
rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.
15“Gwnïais sachliain am fy nghroen,
a chuddiais fy nghorun yn y llwch.
16Cochodd fy wyneb gan ddagrau,
daeth düwch ar fy amrannau,
17er nad oes trais ar fy nwylo,
ac er bod fy ngweddi'n ddilys.
18“O ddaear, na chuddia fy ngwaed,
ac na fydded gorffwys i'm cri.
19Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,
ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.
20Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,
difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,
21fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,
fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.
22Ychydig flynyddoedd sydd i ddod
cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”

Dewis Presennol:

Job 16: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd