Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 14

14
1“Y mae pob un a anwyd o wraig
yn fyr ei oes ac yn llawn helbul.
2Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo;
diflanna fel cysgod ac nid erys.
3A roi di sylw i un fel hyn,
a'i ddwyn ef#14:3 Hebraeg, a'm dwyn i. i farn gyda thi?
4Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!
5Gan fod terfyn i'w ddyddiau,
a chan iti rifo'i fisoedd,
a gosod iddo ffin nas croesir,
6yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd,
fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.
7“Er i goeden gael ei thorri,
y mae gobaith iddi ailflaguro,
ac ni pheidia ei blagur â thyfu.
8Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear,
ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,
9pan synhwyra ddŵr fe adfywia,
ac fe flagura fel planhigyn ifanc.
10Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,
a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach#14:10 Felly llawysgrifau a Groeg. TM, ple mae?.
11Derfydd y dŵr o'r llyn;
disbyddir a sychir yr afon;
12felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,
ni ddeffry tra pery'r nefoedd,
ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
13O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,
ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,
a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!
14(Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)
Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,
hyd nes i'm rhyddhad ddod.
15Gelwit arnaf, ac atebwn innau;
hiraethit am waith dy ddwylo.
16Yna cedwit gyfrif o'm camre,
heb wylio fy mhechod;
17selid fy nhrosedd mewn cod,
a chuddid fy nghamwedd.
18“Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,
ac fel y symud y graig o'i lle,
19ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd,
ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd,
felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.
20Parhei i'w orthrymu nes derfydd;
newidi ei wedd, a'i ollwng.
21Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr;
pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.
22Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni,
a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio.”

Dewis Presennol:

Job 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda