Yna daeth amser dathlu gŵyl y Cysegru yn Jerwsalem. Yr oedd yn aeaf, ac yr oedd Iesu'n cerdded yn y deml, yng Nghloestr Solomon. Daeth yr Iddewon o'i amgylch a gofyn iddo, “Am ba hyd yr wyt ti am ein cadw ni mewn ansicrwydd? Os tydi yw'r Meseia, dywed hynny wrthym yn blaen.” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf wedi dweud wrthych, ond nid ydych yn credu. Y mae'r gweithredoedd hyn yr wyf fi yn eu gwneud yn enw fy Nhad yn tystiolaethu amdanaf fi. Ond nid ydych chwi'n credu, am nad ydych yn perthyn i'm defaid i. Y mae fy nefaid i yn gwrando ar fy llais i, ac yr wyf fi'n eu hadnabod, a hwythau'n fy nghanlyn i. Yr wyf fi'n rhoi bywyd tragwyddol iddynt; nid ânt byth i ddistryw, ac ni chaiff neb eu cipio hwy allan o'm llaw i. Hwy yw rhodd fy Nhad i mi, rhodd sy'n fwy na dim oll, ac ni all neb eu cipio allan o law fy Nhad. Myfi a'r Tad, un ydym.” Unwaith eto casglodd yr Iddewon gerrig i'w labyddio ef. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yr wyf wedi dangos i chwi lawer o weithredoedd da trwy rym y Tad. O achos p'run ohonynt yr ydych am fy llabyddio?”
Darllen Ioan 10
Gwranda ar Ioan 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 10:22-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos