Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 29

29
Llythyr Jeremeia at yr Iddewon ym Mabilon
1Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon. 2Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem. 3Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon. 4Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon. 5Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth; 6priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau. 7Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’
8“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y#29:8 Felly Groeg. Hebraeg, eich. breuddwydion a freuddwydiant#29:8 Felly Groeg. Hebraeg, a freuddwydiwch.. 9Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD.
10“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn. 11Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. 12Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch. 13Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon 14fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’
15“Yr ydych yn dweud, ‘Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.’ 16Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud; 17ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt. 18Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt. 19Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘felly ni wrandawsoch chwithau,’ medd yr ARGLWYDD. 20‘Ond yn awr gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi yr holl gaethglud a yrrais o Jerwsalem i Fabilon.’
21“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: ‘Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gŵydd chwi. 22Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: “Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tân.” 23Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu â gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,’ medd yr ARGLWYDD.”
Llythyr Semaia
24“Wrth Semaia y Nehelamiad fe ddywedi, 25‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Anfonaist lythyrau yn d'enw dy hun at holl bobl Jerwsalem, ac at yr offeiriad Seffaneia fab Maaseia ac at yr holl offeiriaid, gan ddweud: 26Gosododd yr ARGLWYDD di yn offeiriad yn lle Jehoiada'r offeiriad, i arolygu yn nhŷ'r ARGLWYDD ar bob gŵr gorffwyll sy'n proffwydo, a'i osod mewn cyffion a rhigod. 27Yn awr pam na cheryddaist Jeremeia o Anathoth, sy'n proffwydo i chwi? 28Oherwydd anfonodd ef atom i Fabilon a dweud: Bydd y gaethglud hon yn hir; codwch dai a thrigwch ynddynt, a phlannwch erddi a bwyta'u ffrwyth.’ ” 29Ac yr oedd yr offeiriad Seffaneia wedi darllen y llythyr hwn yng nghlyw y proffwyd Jeremeia. 30A daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, 31“Anfon at yr holl gaethglud a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth Semaia y Nehelamiad: Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon, a pheri ichwi ymddiried mewn celwydd— 32am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n ymweld â Semaia y Nehelamiad, ac â'i hil. Ni adewir yr un o'i eiddo ymhlith y bobl hyn, ac ni wêl y daioni yr wyf fi am ei roi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD, oherwydd dysgodd wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”

Dewis Presennol:

Jeremeia 29: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda