Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 29:1-23

Jeremeia 29:1-23 BCND

Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon. Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem. Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon. Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon. Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth; priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau. Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant. Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn. Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch. Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’ “Yr ydych yn dweud, ‘Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.’ Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud; ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt. Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt. Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘felly ni wrandawsoch chwithau,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Ond yn awr gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi yr holl gaethglud a yrrais o Jerwsalem i Fabilon.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: ‘Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gŵydd chwi. Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: “Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tân.” Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu â gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,’ medd yr ARGLWYDD.”