Jeremeia 29:1-23
Jeremeia 29:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a’r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi’u cymryd yn gaeth i Babilon gan y Brenin Nebwchadnesar. (Roedd hyn ar ôl i’r Brenin Jehoiachin a’r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a’r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.) Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth â’r llythyr yno. Roedden nhw wedi’u hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma’r llythyr: Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi’u hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta’r hyn sy’n tyfu ynddyn nhw. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i’ch meibion a gadael i’ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i’ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi’n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.” Achos dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i’r proffwydi sydd gyda chi, a’r rhai hynny sy’n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o’u breuddwydion. Maen nhw’n hawlio eu bod nhw’n siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i mo’u hanfon nhw,” meddai’r ARGLWYDD. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlynedd bydda i’n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i’n gwneud y pethau da dw i wedi’u haddo, a dod â chi yn ôl yma i’ch gwlad eich hunain. Fi sy’n gwybod beth dw i wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai’r ARGLWYDD. “Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando. Os byddwch chi’n chwilio amdana i o ddifri, â’ch holl galon, byddwch chi’n fy ffeindio i. Bydda i’n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai’r ARGLWYDD. “Bydda i’n rhoi’r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i’n eich casglu chi yn ôl o’r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i’n dod â chi adre i’ch gwlad eich hunain.” “Ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. Felly gwrandwch beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy’n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy’n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i’w bwyta. Dw i’n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i’w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw’n enghraifft o wlad wedi’i melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw’n destun sbort i’r gwledydd lle bydda i’n eu hanfon nhw’n gaeth. Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi’i ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai’r ARGLWYDD. Felly – chi sydd wedi’ch gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy’n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw’n siarad drosto i: “Dw i’n mynd i’w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e’n eu lladd nhw o’ch blaenau chi. Bydd gan bobl Jwda sy’n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i’r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi’n fyw gan frenin Babilon!’ Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel, wedi cysgu gyda gwragedd dynion eraill a dweud celwydd, tra’n honni eu bod nhw’n siarad drosto i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i’n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi’i wneud,” meddai’r ARGLWYDD.
Jeremeia 29:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon. Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem. Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon. Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon. Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth; priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau. Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant. Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD. “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn. Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol. Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch. Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’ “Yr ydych yn dweud, ‘Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.’ Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud; ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt. Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt. Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘felly ni wrandawsoch chwithau,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Ond yn awr gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi yr holl gaethglud a yrrais o Jerwsalem i Fabilon.’ “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: ‘Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gŵydd chwi. Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: “Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tân.” Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu â gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,’ medd yr ARGLWYDD.”
Jeremeia 29:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyma eiriau y llythyr a anfonodd Jeremeia y proffwyd o Jerwsalem at weddill henuriaid y gaethglud, ac at yr offeiriaid, ac at y proffwydi, ac at yr holl bobl y rhai a gaethgludasai Nebuchodonosor o Jerwsalem i Babilon; (Wedi myned Jechoneia y brenin, a’r frenhines, a’r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a’r seiri a’r gofaint, allan o Jerwsalem;) Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon; Adeiledwch dai, a phreswyliwch ynddynt; a phlennwch erddi, a bwytewch eu ffrwyth hwynt. Cymerwch wragedd, ac enillwch feibion a merched; a chymerwch wragedd i’ch meibion, a rhoddwch eich merched i wŷr, fel yr esgoront ar feibion a merched, ac yr amlhaoch chwi yno, ac na leihaoch. Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas yr hon y’ch caethgludais iddi, a gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti hi; canys yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwithau. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Na thwylled eich proffwydi y rhai sydd yn eich mysg chwi mohonoch, na’ch dewiniaid; ac na wrandewch ar eich breuddwydion y rhai yr ydych chwi yn peri eu breuddwydio: Canys y maent hwy yn proffwydo i chwi ar gelwydd yn fy enw i; ni anfonais i mohonynt, medd yr ARGLWYDD. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pan gyflawner yn Babilon ddeng mlynedd a thrigain, yr ymwelaf â chwi, ac a gyflawnaf â chwi fy ngair daionus, trwy eich dwyn chwi drachefn i’r lle hwn. Oblegid myfi a wn y meddyliau yr wyf fi yn eu meddwl amdanoch chwi, medd yr ARGLWYDD, meddyliau heddwch ac nid niwed, i roddi i chwi y diwedd yr ydych chwi yn ei ddisgwyl. Yna y gelwch chwi arnaf, ac yr ewch, ac y gweddïwch arnaf fi, a minnau a’ch gwrandawaf. Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y’m ceisioch â’ch holl galon. A mi a adawaf i chwi fy nghael, medd yr ARGLWYDD, a mi a ddychwelaf eich caethiwed, ac a’ch casglaf chwi o’r holl genhedloedd, ac o’r holl leoedd y rhai y’ch gyrrais iddynt, medd yr ARGLWYDD; a mi a’ch dygaf chwi drachefn i’r lle y perais eich caethgludo chwi allan ohono. Oherwydd i chwi ddywedyd, Yr ARGLWYDD a gyfododd broffwydi i ni yn Babilon; Gwybyddwch mai fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y brenin sydd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, ac am yr holl bobl sydd yn trigo yn y ddinas hon, ac am eich brodyr y rhai nid aethant allan gyda chwi i gaethglud; Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Wele fi yn anfon arnynt y cleddyf, a newyn, a haint, a mi a’u gwnaf hwynt fel y ffigys bryntion, y rhai ni ellir eu bwyta, rhag eu dryced. A mi a’u herlidiaf hwynt â’r cleddyf, â newyn, ac â haint; ac mi a’u rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith, ac yn chwithdra, ac yn chwibaniad, ac yn warth, ymysg yr holl genhedloedd lle y gyrrais i hwynt; Am na wrandawsant ar fy ngeiriau, medd yr ARGLWYDD, y rhai a anfonais i atynt gyda’m gweision y proffwydi, gan gyfodi yn fore, a’u hanfon; ond ni wrandawech, medd yr ARGLWYDD. Gan hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi oll o’r gaethglud a anfonais o Jerwsalem i Babilon: Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, am Ahab mab Colaia, ac am Sedeceia mab Maaseia, y rhai sydd yn proffwydo celwydd i chwi yn fy enw i; Wele, myfi a’u rhoddaf hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’u lladd hwynt yng ngŵydd eich llygaid chwi. A holl gaethglud Jwda, yr hon sydd yn Babilon, a gymerant y rheg hon oddi wrthynt hwy, gan ddywedyd, Gwneled yr ARGLWYDD dydi fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon wrth y tân; Am iddynt wneuthur ysgelerder yn Israel, a gwneuthur godineb gyda gwragedd eu cymdogion, a llefaru ohonynt eiriau celwyddog yn fy enw i, y rhai ni orchmynnais iddynt; a minnau yn gwybod, ac yn dyst, medd yr ARGLWYDD.