Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 20

20
Jeremeia a Pasur yr Offeiriad
1Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn, 2trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD. 3Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, “Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw#20:3 Hebraeg, Magor missabib.. 4Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro â'r cleddyf. 5Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon. 6A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu—ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.’ ”
Cwynfan Jeremeia
7Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd.
Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi.
Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd,
a phawb yn fy ngwatwar.
8Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf,
“Trais! Anrhaith!” yw fy llef.
Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi
yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
9Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,
ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,
y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân
wedi ei gau o fewn fy esgyrn.
Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
10Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:
“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”
Y mae pawb a fu'n heddychlon â mi
yn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,
“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”
11Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,
fel rhyfelwr cadarn;
am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,
ac ni orchfygant;
gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,
ac nid anghofir fyth eu gwarth.
12O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,
ac yn gweld y galon a'r meddwl;
rho imi weld dy ddialedd arnynt,
canys dadlennais i ti fy nghwyn.
13Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD.
Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.
14Melltith ar y dydd y'm ganwyd;
na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.
15Melltith ar y gŵr aeth â'r neges i'm tad,
“Ganwyd mab i ti”,
a rhoi llawenydd mawr iddo.
16Bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedd
a ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed.
Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore,
a bloedd am hanner dydd,
17oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth,
ac na fu fy mam yn fedd i mi,
a'i chroth yn feichiog arnaf byth.
18Pam y deuthum allan o'r groth,
i weld trafferth a gofid,
a threulio fy nyddiau mewn gwarth?

Dewis Presennol:

Jeremeia 20: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda