Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf,
“Trais! Anrhaith!” yw fy llef.
Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi
yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,
ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,
y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân
wedi ei gau o fewn fy esgyrn.
Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.