Jeremeia 20:8-9
Jeremeia 20:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf, “Trais! Anrhaith!” yw fy llef. Canys y mae gair yr ARGLWYDD i mi yn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd. Os dywedaf, “Ni soniaf amdano, ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”, y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn. Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
Jeremeia 20:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bob tro dw i’n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi, “Mae trais a dinistr yn dod!” Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy’r amser. Dw i’n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto. Dw i’n mynd i wrthod siarad ar ei ran!” Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi. Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn. Dw i’n trio fy ngorau i’w ddal yn ôl, ond alla i ddim!
Jeremeia 20:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys er pan leferais, mi a waeddais, trais ac anrhaith a lefais; am fod gair yr ARGLWYDD yn waradwydd ac yn watwargerdd i mi beunydd. Yna y dywedais, Ni soniaf amdano ef, ac ni lefaraf yn ei enw ef mwyach: ond ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân, wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.