Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 21

21
Gwragedd ar gyfer Llwyth Benjamin
1Yr oedd yr Israeliaid wedi tyngu yn Mispa na fyddai neb ohonynt yn rhoi ei ferch yn wraig i Benjaminiad. 2Wedi i'r bobl ddod i Fethel ac eistedd yno gerbron Duw hyd yr hwyr, dechreusant wylo'n hidl, 3a dweud, “Pam, O ARGLWYDD Dduw Israel, y digwyddodd hyn i Israel, bod un llwyth heddiw yn eisiau?” 4Trannoeth, wedi i'r bobl godi'n fore, codasant yno allor ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. 5Yna dywedodd yr Israeliaid, “Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?” Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na ddôi i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth. 6Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, “Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw. 7Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?” 8Ac meddent, “Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?” Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad. 9Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead. 10Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wŷr rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, “Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead â'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant. 11A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf.” 12Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant â hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan. 13Anfonodd y cynulliad cyfan neges at y Benjaminiaid oedd yng nghraig Rimmon, a chynnig heddwch iddynt. 14Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.
15A chan fod y bobl yn gofidio am Benjamin, am i'r ARGLWYDD wneud bwlch yn llwythau Israel, 16dywedodd henuriaid y cynulliad, “Beth a wnawn am wragedd i'r gweddill, gan fod y merched wedi eu difa o blith Benjamin?” 17Ac meddent, “Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel. 18Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, ‘Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.’ ” 19A dyna hwy'n dweud, “Y mae gŵyl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du'r gogledd i Fethel, ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n arwain o Fethel i Sichem, i'r de o Lebona.” 20A rhoesant orchymyn i'r Benjaminiaid, “Ewch ac ymguddiwch yn y gwinllannoedd, 21a gwyliwch. A phan ddaw merched Seilo allan i ddawnsio, rhuthrwch allan o'r gwinllannoedd a chipiwch bob un wraig o'u plith, ac yna dewch yn ôl i dir Benjamin. 22Ac os daw eu hynafiaid neu eu brodyr atom i achwyn, fe ddywedwn wrthynt, ‘Byddwch yn rasol wrthynt, oherwydd ni chawsom wragedd iddynt trwy ryfel; ac nid chwi sydd wedi eu rhoi hwy iddynt, felly rydych chwi'n ddieuog.’ ”
23Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn ôl i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt. 24Dychwelodd yr Israeliaid hefyd yr un pryd i'w tiriogaeth, a phob un yn mynd yn ôl at ei lwyth a'i deulu ei hun.
25Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.

Dewis Presennol:

Barnwyr 21: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda