Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 19

19
Y Lefiad a'i Ordderchwraig
1Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd rhyw Lefiad yn byw yng nghyffiniau mynydd-dir Effraim, ac fe gymerodd iddo ordderchwraig o Fethlehem Jwda. 2Ond bu'r ordderchwraig yn anffyddlon iddo; gadawodd ef a dianc adref i Fethlehem Jwda. Wedi iddi fod yno ryw bedwar mis, 3cychwynnodd ei gŵr ar ei hôl gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n ôl. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod. 4Mynnodd ei dad-yng-nghyfraith, sef tad yr eneth, iddo aros yno am dridiau, a buont yn bwyta ac yn yfed ac yn cysgu yno. 5Ar y pedwerydd dydd, wedi iddynt godi'n fore a pharatoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrth ei fab-yng-nghyfraith, “Atgyfnertha dy hun â thamaid o fara cyn cychwyn.” 6Felly dyna'r ddau'n eistedd i lawr gyda'i gilydd i fwyta ac yfed; ac meddai tad yr eneth wrth y gŵr, “Bodlona aros noson eto a'th fwynhau dy hun.” 7Er i'r gŵr godi i fynd, bu ei dad-yng-nghyfraith mor daer fel yr arhosodd yno noson arall. 8A phan gododd i gychwyn fore'r pumed diwrnod, dywedodd tad yr eneth, “Atgyfnertha dy hun.” 9A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, “Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref.” 10Ond ni fynnai'r dyn aros; cododd, a mynd gyda'i ddau asyn llwythog, a'i ordderch, a'i was#19:10 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, a'i ordderch gydag ef., nes dod gyferbyn â Jebus, hynny yw Jerwsalem. 11A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, “Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi.” 12Ond atebodd ei feistr, “Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea.” 13Ac meddai wedyn wrth ei was, “Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt.” 14Felly ymlaen â hwy nes i'r haul fachlud arnynt yn ymyl Gibea Benjamin. 15Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwâr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.
16Ar hynny, dyma hen ŵr yn dod o'i waith yn y maes gyda'r hwyr. Un o fynydd-dir Effraim oedd ef, ond yn cartrefu dros dro yn Gibea; Benjaminiaid oedd pobl y lle. 17Wrth godi ei olwg, gwelodd y teithiwr ar sgwâr y dref, ac meddai'r hen ŵr, “I ble rwyt ti'n mynd, ac o ble y daethost?” 18Dywedodd yntau wrtho, “Ar daith o Fethlehem Jwda i gyffiniau mynydd-dir Effraim yr ydym ni. Un oddi yno wyf fi, yn dychwelyd adref#19:18 Felly Groeg. Hebraeg, dychwelyd i dŷ'r ARGLWYDD. ar ôl bod ym Methlehem Jwda; ond nid oes neb wedi fy nghymryd i'w dŷ. 19Y mae gennym wellt ac ebran i'n hasynnod, hefyd fara a gwin i mi a'th lawforwyn a'r gwas; nid oes ar dy weision angen un dim.” 20Dywedodd yr hen ŵr, “Croeso i chwi. Fe ofalaf fi am eich anghenion i gyd; rhaid ichwi beidio â threulio'r nos ar y sgwâr.” 21Aeth â hwy i'w dŷ a phorthi'r asynnod; cawsant hwythau olchi eu traed a bwyta ac yfed.
22Tra oeddent yn eu mwynhau eu hunain, daeth rhai o ddihirod y dref i ymgasglu o gwmpas y tŷ, a churo ar y drws a dweud wrth yr hen ŵr oedd yn berchen y tŷ, “Tyrd â'r dyn a ddaeth i'th dŷ allan, i ni gael cyfathrach ag ef.” 23Aeth perchennog y tŷ allan atynt a dweud wrthynt, “Nage, frodyr, peidiwch â chamymddwyn; gan fod y dyn wedi dod i'm tŷ, peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd. 24Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof â hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch â gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn.” 25Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr. 26Yn y bore, daeth y ddynes a disgyn wrth ddrws y tŷ lle'r oedd ei meistr. 27Pan gododd ei meistr yn y bore ac agor drws y tŷ i fynd allan i gychwyn ar ei daith, dyna lle'r oedd ei ordderch wedi disgyn wrth ddrws y tŷ, a'i dwy law ar y rhiniog. 28Dywedodd wrthi, “Cod, inni gael mynd.” Ond nid oedd ateb. Cododd hi ar yr asyn ac aeth adref. 29Pan gyrhaeddodd ei gartref, cymerodd gyllell, a gafael yn ei ordderch a'i darnio bob yn gymal yn ddeuddeg darn, a'u hanfon drwy holl derfynau Israel. 30Yr oedd pawb a'i gwelodd yn dweud, “Ni wnaed ac ni welwyd y fath beth, o'r dydd y daeth yr Israeliaid i fyny o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn. Edrychwch arni ac ystyried; yna mynegwch eich barn.”

Dewis Presennol:

Barnwyr 19: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda