Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 17

17
Eilunod Mica
1Yr oedd dyn o fynydd-dir Effraim o'r enw Mica. 2Dywedodd wrth ei fam, “Ynglŷn â'r un cant ar ddeg o ddarnau arian a ddygwyd oddi arnat, ac y clywais di'n cyhoeddi melltith arnynt—dyma'r arian gennyf fi; myfi a'u cymerodd.” Ac meddai ei fam, “Bendith yr ARGLWYDD fo ar fy mab!” 3Rhoddodd yr un cant ar ddeg o ddarnau arian yn ôl i'w fam; a dywedodd hithau, “Yr wyf am lwyr gysegru'r arian hwn i'r ARGLWYDD, a'i roi i'm mab i wneud cerfddelw a delw dawdd; felly dyma fi'n ei roi yn ôl iti.” 4Ond dychwelodd ef yr arian i'w fam, ac yna cymerodd hi ddau gant o'r darnau a'u rhoi i'r eurych, a gwnaeth yntau gerfddelw a delw dawdd i fod yn nhŷ Mica. 5Yr oedd gan y dyn hwn, Mica, gysegr, a gwnaeth effod a teraffim, ac urddo un o'i feibion i fod yn offeiriad iddo. 6Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
7Yr oedd llanc o Lefiad o Fethlehem Jwda yn crwydro ymysg tylwyth Jwda, 8ac wedi iddo adael tref Bethlehem Jwda i fyw ymhle bynnag y câi le, digwyddodd ddod ar ei daith i fynydd-dir Effraim ac i dŷ Mica. 9Gofynnodd Mica iddo, “O ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd yntau, “Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le.” 10Ac meddai Mica wrtho, “Aros gyda mi, a bydd yn dad ac yn offeiriad i mi. Rhoddaf finnau iti ddeg darn arian y flwyddyn, dy ddillad a'th fwyd#17:10 Hebraeg yn ychwanegu ac aeth y Lefiad..” 11Cytunodd y llanc o Lefiad i fyw gyda'r dyn, a bu fel un o'i feibion. 12Urddodd Mica y Lefiad ifanc, a bu'n offeiriad iddo ac yn aros yn nhŷ Mica. 13A dywedodd Mica, “Gwn yn awr y bydd yr ARGLWYDD yn fy llwyddo, oherwydd daeth y Lefiad yn offeiriad imi.”

Dewis Presennol:

Barnwyr 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda