Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 15

15
1Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson â'i wraig gyda myn gafr, a dweud, “Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr.” Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd, 2a dywedodd wrtho, “Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle.” 3Ond dywedodd Samson wrthynt, “Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt.” 4Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod; ac wedi iddo gael ffaglau, fe'u clymodd hwy gynffon wrth gynffon, a gosod ffagl yn y canol rhwng y ddwy gynffon. 5Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd. 6Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, “Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas.” 7Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, “Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch.” 8Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.
Samson yn Gorchfygu'r Philistiaid
9Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi. 10Gofynnodd gwŷr Jwda, “Pam y daethoch yn ein herbyn?” Ac meddent, “Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni.” 11Yna aeth tair mil o wŷr o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, “Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?” Atebodd yntau, “Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi.” 12Yna dywedasant, “Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid.” Dywedodd Samson wrthynt, “Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi.” 13Dywedodd y gwŷr, “Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd.” Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig. 14Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dân, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo. 15Cafodd ên asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi â'i law, a lladd mil o ddynion. 16Ac meddai Samson:
“Â gên asyn rhois iddynt gurfa asyn;
â gên asyn lleddais fil o ddynion.”
17Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr ên o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi#15:17 H.y., Bryn yr ên.. 18Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?” 19Holltodd Duw y ceubwll sydd yn Lehi, a ffrydiodd dŵr ohono; wedi iddo yfed, adferwyd ei ysbryd ac adfywiodd. Am hynny enwodd y ffynnon En-haccore#15:19 H.y., Ffynnon y galwr.; y mae yn Lehi hyd heddiw.
20Bu Samson yn farnwr ar Israel am ugain mlynedd yng nghyfnod y Philistiaid.

Dewis Presennol:

Barnwyr 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda