Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail. Oherwydd drylliaist yr iau oedd yn faich iddynt, a'r croesfar oedd ar eu hysgwydd, a'r ffon oedd gan eu gyrrwr, fel yn nydd Midian. Pob esgid ar droed rhyfelwr mewn ysgarmes, a phob dilledyn wedi ei drybaeddu mewn gwaed, fe'u llosgir fel tanwydd. Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe'i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”.
Darllen Eseia 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 9:2-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos