Ond ni fydd tywyllwch eto i'r sawl a fu mewn cyfyngder. Yn yr amser gynt bu cam-drin ar wlad Sabulon a gwlad Nafftali, ond ar ôl hyn bydd yn anrhydeddu Galilea'r cenhedloedd, ar ffordd y môr, dros yr Iorddonen. Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd; llawenhânt o'th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddant yn gorfoleddu wrth rannu'r ysbail.
Darllen Eseia 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 9:1-3
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos