Pwy yw hwn sy'n dod o Edom,
yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch;
y mae ei wisg yn hardd,
a'i gerddediad yn llawn o nerth?
“Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder,
ac yn abl i waredu.”
Pam y mae dy wisg yn goch,
a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?
“Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan,
ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi;
sethrais hwy yn fy llid,
a'u mathru yn fy nicter.
Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad
nes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial,
a daeth fy mlwyddyn i waredu.
Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu,
a synnais nad oedd neb i'm cynnal;
fy mraich fy hun a'm gwaredodd,
a chynhaliwyd fi gan fy nicter.
Sethrais y bobl yn fy llid,
a'u meddwi yn fy nicter,
a thywallt eu gwaed ar lawr.”
Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD,
a chanu ei glodydd
am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni,
a'i ddaioni mawr i dŷ Israel,
am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd,
ac o lawnder ei gariad di-sigl.
Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt,
plant nad ydynt yn twyllo”,
a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.
Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd;
yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy,
a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.
Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;
troes yntau'n elyn iddynt,
ac ymladd yn eu herbyn.
Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,
am Moses a'i bobl.
Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môr
fugail ei braidd?
Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy
ei ysbryd sanctaidd,
a pheri i'w fraich ogoneddus
arwain deheulaw Moses,
a hollti'r dyfroedd o'u blaen,
i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?
Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd,
fel arwain march yn yr anialwch;
mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn
y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy.
Felly yr arweiniaist dy bobl,
a gwneud iti enw ardderchog.