Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor; ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.” Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud,
“Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?”
Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” Dywedodd,
“Dos, dywed wrth y bobl hyn,
‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall;
edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’
Brasâ galon y bobl,
trymha eu clustiau,
cau eu llygaid;
rhag iddynt weld â'u llygaid,
clywed â'u clustiau,
deall â'u calon,
a dychwelyd i'w hiacháu.”
Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd,
“Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio
heb drigiannydd,
a'r tai heb bobl,
a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;
nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell,
a difrod mawr yng nghanol y wlad.
Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi,
fe'i llosgir drachefn;
fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith,
fel boncyff o'r uchelfa.
Had sanctaidd yw ei boncyff.”