Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 48

48
Israel Ystyfnig
1“Gwrandewch hyn, dŷ Jacob,
y rhai a elwir ar enw Israel,
sy'n tarddu o had#48:1 Felly Targwm. Cymh. Sgrôl A. TM, o ddyfroedd. Jwda,
sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDD
ac yn galw ar Dduw Israel,
heb fod yn onest na didwyll.
2Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd,
a phwyso ar Dduw Israel;
ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
3“Mynegais y pethau cyntaf erstalwm,
eu cyhoeddi â'm genau fy hun a'u gwneud yn hysbys;
ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd.
4Gwyddwn dy fod yn ystyfnig,
a'th war fel gewyn haearn,
a'th dalcen fel pres;
5am hynny rhois wybod i ti erstalwm,
a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd,
rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth,
fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’
6Clywaist a gwelaist hyn i gyd;
onid ydych am ei gydnabod?
Ac yn awr rwyf am fynegi i chwi bethau newydd,
pethau cudd na wyddoch ddim amdanynt.
7Yn awr y crëwyd hwy, ac nid erstalwm,
ac ni chlywaist ddim amdanynt cyn heddiw,
rhag i ti ddweud, ‘Roeddwn i'n gwybod.’
8Nid oeddit wedi clywed na gwybod;
erstalwm roedd dy glust heb agor;
oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf,
ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr.”
9“Er mwyn fy enw ateliais fy llid,
er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa.
10Purais di, ond nid fel arian;
profais di ym mhair cystudd.
11Er fy mwyn fy hun y gwneuthum hyn;
a gânt halogi fy enw?#48:11 Felly Groeg. Hebraeg heb fy enw.
Ni roddaf fy anrhydedd i arall.”
Rhyddhau Israel
12“Clyw fi, Jacob,
ac Israel, yr un a elwais:
Myfi yw;
myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd.
13Fy llaw a sylfaenodd y ddaear,
a'm deheulaw a daenodd y nefoedd;
pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.”
14“Dewch bawb at eich gilydd a gwrando;
pwy ohonynt a fynegodd hyn?
Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi
fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had#48:14 Felly Groeg. Hebraeg, ar ei fraich. y Caldeaid.
15Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd;
dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd.
16Dewch ataf, clywch hyn:
O'r dechrau ni leferais yn ddirgel;
o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.”
Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW
a'm hanfonodd i.
17Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,
dy Waredydd, Sanct Israel:
“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
sy'n dy ddysgu er dy les,
ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.
18Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn,
byddai dy heddwch fel yr afon,
a'th gyfiawnder fel tonnau'r môr;
19a byddai dy had fel y tywod,
a'th epil fel ei raean,
a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd.”
20Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid;
mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd,
cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear;
dywedwch, “Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob.”
21Nid oedd arnynt syched
pan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial;
gwnaeth i ddŵr lifo iddynt o'r graig;
holltodd y graig a phistyllodd y dŵr.
22“Nid oes llwyddiant i'r annuwiol,” medd yr ARGLWYDD.

Dewis Presennol:

Eseia 48: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda