“Clyw fi, Jacob, ac Israel, yr un a elwais: Myfi yw; myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd. Fy llaw a sylfaenodd y ddaear, a'm deheulaw a daenodd y nefoedd; pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.” “Dewch bawb at eich gilydd a gwrando; pwy ohonynt a fynegodd hyn? Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffi fydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid. Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd; dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd. Dewch ataf, clywch hyn: O'r dechrau ni leferais yn ddirgel; o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.” Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUW a'm hanfonodd i. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd, Sanct Israel: “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, sy'n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded. Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn, byddai dy heddwch fel yr afon, a'th gyfiawnder fel tonnau'r môr; a byddai dy had fel y tywod, a'th epil fel ei raean, a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd.” Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid; mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd, cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear; dywedwch, “Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob.” Nid oedd arnynt syched pan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial; gwnaeth i ddŵr lifo iddynt o'r graig; holltodd y graig a phistyllodd y dŵr. “Nid oes llwyddiant i'r annuwiol,” medd yr ARGLWYDD.
Darllen Eseia 48
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 48:12-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos