Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
eich Gwaredydd, Sanct Israel:
“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,
ac yn dryllio'r barrau i gyd,
a throi cân y Caldeaid yn wylofain.
Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;
creawdwr Israel yw eich brenin.”
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
a agorodd ffordd yn y môr
a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
a ddug allan gerbyd a march,
byddin a dewrion,
a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,
yn darfod ac yn diffodd fel llin:
“Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,
peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;
y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?
Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,
ac afonydd yn y diffeithwch.
Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,
y bleiddiaid a'r estrys,
am imi roi dŵr yn yr anialwch
ac afonydd yn y diffeithwch,
er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,
sef y bobl a luniais i mi fy hun,
iddynt fynegi fy nghlod.
“Jacob, ni elwaist arnaf fi,
ond blinaist arnaf, Israel.
Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,
na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;
ni roddais faich bwydoffrwm arnat,
na'th flino am arogldarth.
Ni phrynaist i mi galamus ag arian,
na'm llenwi â'th ebyrth breision;
ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,
blinaist fi â'th gamweddau.
“Myfi, myfi yw Duw,
sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun,
heb alw i gof dy bechodau.
Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd;
gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
Pechodd dy dad cyntaf,
a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
a halogodd dy dywysogion fy nghysegr;
felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio,
ac Israel yn waradwydd.”