Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 43:14-28

Eseia 43:14-28 BCND

Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: “Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi cân y Caldeaid yn wylofain. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin.” Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y môr a llwybr yn y dyfroedd enbyd; a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin: “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes. Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi dŵr yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig, sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod. “Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel. Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu â'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth. Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi â'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi â'th gamweddau. “Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau. Cyhudda fi, dadleuwn â'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad. Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn, a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd.”