Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD
a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel:
“Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di;
galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi;
a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot.
Pan fyddi'n rhodio trwy'r tân, ni'th ddeifir,
a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw,
Sanct Israel, yw dy Waredydd;
rhof yr Aifft yn iawn trosot,
Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg,
yn ogoneddus, a minnau'n dy garu,
rhof eraill yn gyfnewid amdanat,
a phobloedd am dy einioes.
Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi.
Dygaf dy had o'r dwyrain,
casglaf di o'r gorllewin;
gorchmynnaf i'r gogledd, ‘Rho’,
ac i'r de, ‘Paid â dal yn ôl;
tyrd â'm meibion o bell,
a'm merched o eithafoedd byd—
pob un sydd â'm henw arno,
ac a greais i'm gogoniant,
ac a luniais, ac a wneuthum.’ ”
Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt,
y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd,
a'r bobloedd wedi eu cynnull.
Pwy yn eu plith a fynega hyn,
a chyhoeddi i ni y pethau gynt?
Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos,
a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
“Chwi yw fy nhystion,” medd yr ARGLWYDD,
“fy ngwas, a etholais
er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof,
a deall mai myfi yw Duw.
Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen,
ac ni fydd yr un ar fy ôl.
Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD;
nid oes waredydd ond myfi.
Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi,
pan nad oedd duw dieithr yn eich plith;
ac yr ydych chwi'n dystion i mi,” medd yr ARGLWYDD,
“mai myfi yw Duw.
O'r dydd hwn, myfi yw Duw;
ni all neb waredu o'm llaw.
Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud.”
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
eich Gwaredydd, Sanct Israel:
“Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon,
ac yn dryllio'r barrau i gyd,
a throi cân y Caldeaid yn wylofain.
Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;
creawdwr Israel yw eich brenin.”
Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,
a agorodd ffordd yn y môr
a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
a ddug allan gerbyd a march,
byddin a dewrion,
a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,
yn darfod ac yn diffodd fel llin:
“Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,
peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;
y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?
Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,
ac afonydd yn y diffeithwch.
Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,
y bleiddiaid a'r estrys,
am imi roi dŵr yn yr anialwch
ac afonydd yn y diffeithwch,
er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,
sef y bobl a luniais i mi fy hun,
iddynt fynegi fy nghlod.