Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu, a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw. Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ. Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth. Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru; ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.
Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud:
“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,
peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel,
yn nydd y profi yn yr anialwch,
lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi,
ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.
Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno,
a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau,
ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’
Felly tyngais yn fy nig,
‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ”
Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud:
“Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,
peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.”
Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.