Hebreaid 3:1-19
Hebreaid 3:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu, a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw. Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint â bod adeiladydd tŷ yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tŷ. Y mae pob tŷ yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth. Bu Moses yn ffyddlon yn holl dŷ Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru; ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd â rheolaeth ar dŷ Dduw. A ni yw ei dŷ ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo. Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch, lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd. Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’ Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.” Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.
Hebreaid 3:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, frodyr a chwiorydd – chi sydd wedi’ch glanhau ac ar eich ffordd i’r nefoedd – meddyliwch am Iesu! Fe ydy’r negesydd oddi wrth Dduw a’r un dŷn ni’n ei dderbyn yn Archoffeiriad. Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo’i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.” Ond mae Iesu’n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy’n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na’r tŷ ei hun! Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy’n bod ydy Duw! Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw’n ei wneud yn y dyfodol. Ond mae’r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni’n bobl sy’n perthyn i’r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a’r gobaith dŷn ni’n ei frolio. Felly, fel mae’r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch. Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd. Digiais gyda’r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw’n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’ Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gyda mi.’” Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw. Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi’n ‘heddiw’. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a’ch gwneud yn ystyfnig. Os daliwn ein gafael i’r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu’r cwbl sydd gan y Meseia. Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.” A phwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o’r Aifft? A gyda pwy roedd Duw’n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda’r rhai oedd wedi pechu? – nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch! Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i’r lle sy’n saff i orffwys gydag e? – onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn? Felly dŷn ni’n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.
Hebreaid 3:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef. Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd. Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant? Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.