Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 11

11
Ffydd
1Yn awr, y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt, ac yn sicrwydd#11:1 Neu, yn brawf. o bethau na ellir eu gweld. 2Trwyddi hi, yn wir, y cafodd y rhai gynt enw da.
3Trwy ffydd yr ydym yn deall i'r bydysawd gael ei lunio gan air Duw yn y fath fodd nes bod yr hyn sy'n weledig wedi tarddu o'r hyn nad yw'n weladwy.
4Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Cain; trwyddi hi y tystiwyd ei fod yn gyfiawn, wrth i Dduw ei hun dystio i ragoriaeth ei roddion; a thrwyddi hi hefyd y mae ef, er ei fod wedi marw, yn llefaru o hyd. 5Trwy ffydd y cymerwyd Enoch ymaith fel na welai farwolaeth; ac ni chafwyd mohono, am fod Duw wedi ei gymryd. Oherwydd y mae tystiolaeth ei fod, cyn ei gymryd, wedi rhyngu bodd Duw; 6ond heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio. 7Trwy ffydd, ac o barch i rybudd Duw am yr hyn nad oedd eto i'w weld, yr adeiladodd Noa arch i achub ei deulu; a thrwyddi hi y condemniodd y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder a ddaw o ffydd.
8Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd. 9Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd#11:9 Neu, yr ymgartrefodd yng ngwlad yr addewid fel mewn gwlad estron, gan drigo. mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid. 10Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi. 11Trwy ffydd—a Sara hithau yn ddiffrwyth—y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo#11:11 Yn ôl darlleniad arall, Trwy ffydd y cafodd Sara hithau nerth i feichiogi, er cymaint ei hoedran, am iddi. gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo. 12Am hynny, felly, o un dyn, a hwnnw cystal â bod yn farw, fe gododd disgynyddion fel sêr y nef o ran eu nifer, ac fel tywod dirifedi glan y môr.
13Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a'i groesawu o bell, a chyfaddef mai dieithriaid ac ymdeithwyr oeddent ar y ddaear. 14Y mae'r rhai sy'n llefaru fel hyn yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio mamwlad. 15Ac yn wir, pe buasent wedi dal i feddwl am y wlad yr oeddent wedi mynd allan ohoni, buasent wedi cael cyfle i ddychwelyd iddi. 16Ond y gwir yw eu bod yn dyheu am wlad well, sef gwlad nefol. Dyna pam nad oes ar Dduw gywilydd ohonynt, nac o gael ei alw yn Dduw iddynt, oherwydd y mae wedi paratoi dinas iddynt.
17Trwy ffydd, pan osodwyd prawf arno, yr offrymodd Abraham Isaac. Yr oedd yr hwn oedd wedi croesawu'r addewidion yn barod i offrymu ei unig fab, 18er bod Duw wedi dweud wrtho, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.” 19Oblegid barnodd y gallai Duw ei godi hyd yn oed oddi wrth y meirw; ac oddi wrth y meirw, yn wir, a siarad yn ffigurol, y cafodd ef yn ôl. 20Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau ar gyfer pethau i ddod. 21Trwy ffydd y bendithiodd Jacob, wrth farw, bob un o feibion Joseff, ac addoli â'i bwys ar ei ffon. 22Trwy ffydd y soniodd Joseff, wrth farw, am exodus meibion Israel, a rhoi gorchymyn ynghylch ei esgyrn.
23Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin. 24Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo, 25gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro, 26a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr. 27Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig. 28Trwy ffydd y cadwodd ef y Pasg, a thaenellu'r gwaed, rhag i'r Dinistrydd gyffwrdd â meibion cyntafanedig yr Israeliaid. 29Trwy ffydd yr aethant drwy'r Môr Coch fel pe ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud hynny, fe'u boddwyd. 30Trwy ffydd y syrthiodd muriau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith diwrnod. 31Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda'r rhai oedd wedi gwrthod credu, oherwydd iddi groesawu'r ysbiwyr yn heddychlon.
32A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a'r proffwydi, 33y rhai drwy ffydd a oresgynnodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a afaelodd yn yr addewidion, a gaeodd safnau llewod, 34a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo. 35Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell. 36Cafodd eraill brofi gwatwar a fflangell, ie, cadwynau hefyd, a charchar. 37Fe'u llabyddiwyd,#11:37 Yn ôl darlleniad arall, Fe'u llabyddiwyd, fe'u profwyd. fe'u torrwyd â llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth â min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth, 38rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn tiroedd diffaith a mynyddoedd, ac yn cuddio mewn ogofeydd a thyllau yn y ddaear.
39A'r rhai hyn oll, er iddynt dderbyn enw da trwy eu ffydd, ni chawsant feddiannu'r hyn a addawyd, 40am fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel nad ydynt hwy i gael eu perffeithio hebom ni.

Dewis Presennol:

Hebreaid 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd