Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid. Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi. Trwy ffydd—a Sara hithau yn ddiffrwyth—y cafodd nerth i genhedlu plentyn, er cymaint ei oedran, am iddo gyfrif yn ffyddlon yr hwn oedd wedi addo. Am hynny, felly, o un dyn, a hwnnw cystal â bod yn farw, fe gododd disgynyddion fel sêr y nef o ran eu nifer, ac fel tywod dirifedi glan y môr. Mewn ffydd y bu farw'r rhai hyn oll, heb fod wedi derbyn yr hyn a addawyd, ond wedi ei weld a'i groesawu o bell, a chyfaddef mai dieithriaid ac ymdeithwyr oeddent ar y ddaear.
Darllen Hebreaid 11
Gwranda ar Hebreaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 11:8-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos