Trwy ffydd, ac o barch i rybudd Duw am yr hyn nad oedd eto i'w weld, yr adeiladodd Noa arch i achub ei deulu; a thrwyddi hi y condemniodd y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder a ddaw o ffydd. Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham i'r alwad i fynd allan i'r lle yr oedd i'w dderbyn yn etifeddiaeth; ac fe aeth allan heb wybod i ble'r oedd yn mynd. Trwy ffydd yr ymfudodd i wlad yr addewid fel i wlad estron, a thrigodd mewn pebyll, fel y gwnaeth Isaac a Jacob, cydetifeddion yr un addewid. Oherwydd yr oedd ef yn disgwyl am ddinas ac iddi sylfeini, a Duw yn bensaer ac yn adeiladydd iddi.
Darllen Hebreaid 11
Gwranda ar Hebreaid 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 11:7-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos