Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 11:23-40

Hebreaid 11:23-40 BCND

Trwy ffydd y cuddiwyd Moses ar ei enedigaeth am dri mis gan ei rieni, oherwydd eu bod yn ei weld yn blentyn tlws. Nid oedd arnynt ofn gorchymyn y brenin. Trwy ffydd y gwrthododd Moses, wedi iddo dyfu i fyny, gael ei alw yn fab i ferch Pharo, gan ddewis goddef adfyd gyda phobl Dduw yn hytrach na chael mwynhad pechod dros dro, a chan ystyried gwaradwydd yr Eneiniog yn gyfoeth mwy na thrysorau'r Aifft, oherwydd yr oedd ei olwg ar y wobr. Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, heb ofni dicter y brenin, canys safodd yn gadarn, fel un yn gweld yr Anweledig. Trwy ffydd y cadwodd ef y Pasg, a thaenellu'r gwaed, rhag i'r Dinistrydd gyffwrdd â meibion cyntafanedig yr Israeliaid. Trwy ffydd yr aethant drwy'r Môr Coch fel pe ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud hynny, fe'u boddwyd. Trwy ffydd y syrthiodd muriau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith diwrnod. Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda'r rhai oedd wedi gwrthod credu, oherwydd iddi groesawu'r ysbiwyr yn heddychlon. A beth a ddywedaf ymhellach? Fe ballai amser imi adrodd yn fanwl hanes Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd a Samuel a'r proffwydi, y rhai drwy ffydd a oresgynnodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a afaelodd yn yr addewidion, a gaeodd safnau llewod, a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gadarn mewn rhyfel a gyrru byddinoedd yr estron ar ffo. Derbyniodd gwragedd eu meirwon drwy atgyfodiad. Cafodd eraill eu harteithio, gan wrthod ymwared er mwyn cael atgyfodiad gwell. Cafodd eraill brofi gwatwar a fflangell, ie, cadwynau hefyd, a charchar. Fe'u llabyddiwyd, fe'u torrwyd â llif, fe'u rhoddwyd i farwolaeth â min y cledd; crwydrasant yma ac acw mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, dan orthrwm a chamdriniaeth, rhai nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn tiroedd diffaith a mynyddoedd, ac yn cuddio mewn ogofeydd a thyllau yn y ddaear. A'r rhai hyn oll, er iddynt dderbyn enw da trwy eu ffydd, ni chawsant feddiannu'r hyn a addawyd, am fod Duw wedi rhagweld rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel nad ydynt hwy i gael eu perffeithio hebom ni.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Hebreaid 11:23-40