Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai at Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac at Josua fab Josedec, yr archoffeiriad. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Y mae'r bobl hyn yn dweud na ddaeth yr amser i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.” A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai: “Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tŷ hwn yn adfeilion?” Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr. Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog.”
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr. Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tŷ, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd,” medd yr ARGLWYDD. “Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Am fod fy nhŷ yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch â thŷ i fynd iddo. Dyna pam yr ataliodd y nefoedd y gwlith ac y cadwodd y ddaear ei ffrwyth, ac y cyhoeddais innau sychder ar y ddaear, y mynyddoedd, yr ŷd, y gwin, yr olew, ar bopeth o gynnyrch y tir, ar ddyn ac anifail, ac ar holl lafur dwylo.”