Bendithiodd Duw Noa a'i feibion a dweud, “Byddwch ffrwythlon, amlhewch a llanwch y ddaear. Bydd eich ofn a'ch arswyd ar yr holl fwystfilod gwyllt, ar holl adar yr awyr, ar holl ymlusgiaid y tir ac ar holl bysgod y môr; gosodwyd hwy dan eich awdurdod. Bydd popeth byw sy'n symud yn fwyd i chwi; fel y rhoddais eisoes lysiau gleision i chwi, rhoddaf i chwi bopeth. Ond peidiwch â bwyta cig â'i einioes, sef ei waed, ynddo. Yn wir, mynnaf iawn am waed eich einioes; mynnaf ef gan bob bwystfil a chan bobl; ie, mynnaf iawn am fywyd y sawl a leddir gan arall.
“A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau;
oherwydd gwnaeth Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.
Chwithau, byddwch ffrwythlon ac amlhewch,
epiliwch ar y ddaear ac amlhewch ynddi.”
Llefarodd Duw wrth Noa a'i feibion, a dweud, “Dyma fi'n sefydlu fy nghyfamod â chwi ac â'ch had ar eich ôl, ac â phob creadur byw gyda chwi, yn adar ac anifeiliaid, a'r holl fwystfilod gwyllt sydd gyda chwi, y cwbl a ddaeth allan o'r arch. Sefydlaf fy nghyfamod â chwi, rhag torri ymaith eto bob cnawd trwy ddyfroedd dilyw, na bod dilyw arall i ddifa'r ddaear.” A dywedodd Duw, “Dyma a osodaf yn arwydd o'r cyfamod yr wyf yn ei wneud â chwi ac â phopeth byw gyda chwi tros oesoedd di-rif: gosodaf fy mwa yn y cwmwl, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof a'r ddaear. Pan godaf gwmwl ar y ddaear bydd bwa yn ymddangos yn y cwmwl, a chofiaf fy nghyfamod rhyngof a chwi a phob creadur byw o bob math, ac ni ddaw'r dyfroedd eto yn ddilyw i ddifa pob cnawd. Pan fydd y bwa yn y cwmwl, byddaf yn edrych arno ac yn cofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob creadur byw o bob math ar y ddaear.” Dywedodd Duw wrth Noa, “Dyma arwydd y cyfamod yr wyf wedi ei sefydlu rhyngof a phob cnawd ar y ddaear.”