Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 36

36
Disgynyddion Esau
1 Cron. 1:34–37
1Dyma genedlaethau Esau, hynny yw Edom. 2Priododd Esau wragedd o blith merched Canaan, sef Ada merch Elon yr Hethiad, Oholibama merch Ana fab#36:2 Felly Fersiynau. Hebraeg, merch. Felly hefyd yn adn. 14. Sibeon yr Hefiad, 3a Basemath merch Ismael a chwaer Nebaioth. 4Ac i Esau esgorodd Ada ar Eliffas; esgorodd Basemath ar Reuel; 5ac esgorodd Oholibama ar Jeus, Jalam a Cora. Dyma feibion Esau a anwyd iddo yng ngwlad Canaan. 6Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir#36:6 Felly Syrieg. Hebraeg heb Seir. oddi wrth ei frawd Jacob. 7Yr oedd eu cyfoeth mor fawr fel na allent gyd-fyw, ac ni allai'r wlad lle'r oeddent yn byw eu cynnal o achos eu hanifeiliaid. 8Felly arhosodd Esau, hynny yw Edom, ym mynydd-dir Seir.
9Dyma genedlaethau Esau, tad yr Edomiaid ym mynydd-dir Seir. 10Dyma enwau meibion Esau: Eliffas fab Ada gwraig Esau, Reuel fab Basemath gwraig Esau. 11A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam a Cenas. 12Yr oedd Timna yn wraig ordderch i Eliffas fab Esau, ac i Eliffas esgorodd ar Amalec. Dyna ddisgynyddion Ada gwraig Esau. 13Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna ddisgynyddion Basemath gwraig Esau. 14Dyma feibion Oholibama, merch Ana fab Sibeon, gwraig Esau: i Esau esgorodd ar Jeus, Jalam a Cora.
15Dyma benaethiaid disgynyddion Esau: meibion Eliffas, mab hynaf Esau, y penaethiaid Teman, Omar, Seffo, Cenas, 16Cora, Gatam ac Amalec. Dyna benaethiaid Eliffas yng ngwlad Edom; meibion Ada oeddent. 17Yna meibion Reuel fab Esau: y penaethiaid Nahath, Sera, Samma a Missa. Dyna benaethiaid Reuel yng ngwlad Edom; meibion Basemath gwraig Esau oeddent. 18Yna meibion Oholibama gwraig Esau: y penaethiaid Jeus, Jalam a Cora. Dyna'r penaethiaid a anwyd i Oholibama merch Ana, gwraig Esau. 19Dyna ddisgynyddion Esau, hynny yw Edom, a dyna'u penaethiaid.
Disgynyddion Seir
1 Cron. 1:38–42
20Dyma feibion Seir yr Horiad, preswylwyr y wlad: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, 21Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid, meibion Seir yng ngwlad Edom. 22Hori a Hemam oedd meibion Lotan, a Timna oedd ei chwaer. 23Dyma feibion Sobal: Alfan, Manahath, Ebal, Seffo ac Onam. 24Dyma feibion Sibeon: Aia ac Ana. Hwn yw'r Ana a ddaeth o hyd i ddŵr#36:24 Cymh. Syrieg. Hebraeg yn aneglur. yn y diffeithwch wrth wylio asynnod ei dad Sibeon. 25Dyma blant Ana: Dison ac Oholibama ferch Ana. 26Dyma feibion Dison: Hemdan, Esban, Ithran a Ceran. 27Dyma feibion Eser: Bilhan, Saafan ac Acan. 28Dyma feibion Disan: Us ac Aran. 29Dyma benaethiaid yr Horiaid: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, 30Dison, Eser a Disan. Dyna benaethiaid yr Horiaid yn ôl eu tylwythau yng ngwlad Seir.
Brenhinoedd Edom
31Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom, cyn i'r Israeliaid gael brenin. 32Teyrnasodd Bela fab Beor yn Edom, a Dinhaba oedd enw ei ddinas. 33Pan fu farw Bela, teyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le. 34Pan fu farw Jobab, teyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le. 35Pan fu farw Husam, teyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le, ac ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab; Afith oedd enw ei ddinas. 36Pan fu farw Hadad, teyrnasodd Samla o Masreca yn ei le. 37Pan fu farw Samla, teyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le. 38Pan fu farw Saul, teyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le. 39Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, teyrnasodd Hadar yn ei le; Pau oedd enw ei ddinas. Mehetabel merch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
40Dyma enwau penaethiaid Esau, yn ôl eu llwythau a'u hardaloedd, wrth eu henwau: Timna, Alfa, Jetheth, 41Oholibama, Ela, Pinon, 42Cenas, Teman, Mibsar, 43Magdiel ac Iram. Dyna benaethiaid Edom, hynny yw Esau tad yr Edomiaid, yn ôl lle'r oeddent yn byw yn y wlad yr oeddent yn ei meddiannu.

Dewis Presennol:

Genesis 36: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda