Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 3:1-21

Genesis 3:1-21 BCND

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd’?” Dywedodd y wraig wrth y sarff, “Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‘Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.’ ” Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, “Na! ni fyddwch farw; ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.” A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain. A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble'r wyt ti?” Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?” A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: “Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd. Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef.” Dywedodd wrth y wraig: “Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat.” Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd. Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt. Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.” Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd