Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 3:1-21

Genesis 3:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall roedd yr ARGLWYDD Dduw wedi’u creu. A dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” “Na,” meddai’r wraig, “dŷn ni’n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd. Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a pheidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’” Ond dyma’r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw. Mae Duw yn gwybod y byddwch chi’n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta ohoni. Byddwch chi’n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.” Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i’w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi’n cymryd peth o’i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i’w gŵr oedd gyda hi, a dyma fe’n bwyta hefyd. Yn sydyn roedden nhw’n gweld popeth yn glir, ac yn sylweddoli eu bod nhw’n noeth. Felly dyma nhw’n rhwymo dail coeden ffigys at ei gilydd a gwneud sgertiau iddyn nhw’u hunain. Yna dyma nhw’n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd drwy’r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma’r dyn a’i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble wyt ti?” Atebodd y dyn, “Rôn i’n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i’n noeth. Felly dyma fi’n cuddio.” “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di’n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddwedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?” Ac meddai’r dyn, “Y wraig wnest ti ei rhoi i fod gyda mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi’n ei fwyta.” Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i’r wraig, “Be ti’n feddwl ti’n wneud?” A dyma’r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.” Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi’n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu’r llwch drwy dy fywyd. Byddi di a’r wraig yn elynion. Bydd dy had di a’i had hi bob amser yn elynion. Bydd e’n sathru dy ben di, a byddi di’n taro ei sawdl e.” Yna dyma fe’n dweud wrth y wraig: “Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti; byddi’n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn. Byddi di eisiau dy ŵr, ond bydd e fel meistr arnat ti.” Wedyn dyma fe’n dweud wrth Adda: “Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraig a bwyta ffrwyth y goeden rôn i wedi dweud amdani, ‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’ Felly mae’r ddaear wedi’i melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio’n galed i gael bwyd bob amser. Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi’n bwyta’r cnydau sy’n tyfu yn y caeau. Bydd rhaid i ti weithio’n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i’r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.” Dyma’r dyn yn rhoi’r enw Efa i’w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw. Wedyn dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a’i wraig eu gwisgo.

Genesis 3:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd y sarff yn fwy cyfrwys na'r holl fwystfilod gwyllt a wnaed gan yr ARGLWYDD Dduw. A dywedodd wrth y wraig, “A yw Duw yn wir wedi dweud, ‘Ni chewch fwyta o'r un o goed yr ardd’?” Dywedodd y wraig wrth y sarff, “Cawn fwyta o ffrwyth coed yr ardd, ond am ffrwyth y goeden sydd yng nghanol yr ardd dywedodd Duw, ‘Peidiwch â bwyta ohono, na chyffwrdd ag ef, rhag ichwi farw.’ ” Ond dywedodd y sarff wrth y wraig, “Na! ni fyddwch farw; ond fe ŵyr Duw yr agorir eich llygaid y dydd y bwytewch ohono, a byddwch fel Duw yn gwybod da a drwg.” A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a'i fod yn deg i'r golwg ac yn bren i'w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o'i ffrwyth a'i fwyta, a'i roi hefyd i'w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. Yna agorwyd eu llygaid hwy ill dau i wybod eu bod yn noeth, a gwnïasant ddail ffigysbren i wneud ffedogau iddynt eu hunain. A chlywsant sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn rhodio yn yr ardd gyda hwyr y dydd, ac ymguddiodd y dyn a'i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a dweud wrtho, “Ble'r wyt ti?” Atebodd yntau, “Clywais dy sŵn yn yr ardd, ac ofnais oherwydd fy mod yn noeth, ac ymguddiais.” Dywedodd yntau, “Pwy a ddywedodd wrthyt dy fod yn noeth? A wyt ti wedi bwyta o'r pren y gorchmynnais iti beidio â bwyta ohono?” A dywedodd y dyn, “Y wraig a roddaist i fod gyda mi a roes i mi o ffrwyth y pren, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: “Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd. Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef.” Dywedodd wrth y wraig: “Byddaf yn amlhau yn ddirfawr dy boen a'th wewyr; mewn poen y byddi'n geni plant. Eto bydd dy ddyhead am dy ŵr, a bydd ef yn llywodraethu arnat.” Dywedodd wrth Adda: “Am iti wrando ar lais dy wraig, a bwyta o'r pren y gorchmynnais i ti beidio â bwyta ohono, melltigedig yw'r ddaear o'th achos; trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy fywyd. Bydd yn rhoi iti ddrain ac ysgall, a byddi'n bwyta llysiau gwyllt. Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara hyd oni ddychweli i'r pridd, oherwydd ohono y'th gymerwyd; llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli.” Rhoddodd y dyn i'w wraig yr enw Efa, am mai hi oedd mam pob un byw. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw beisiau crwyn i Adda a'i wraig, a'u gwisgo amdanynt.

Genesis 3:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r sarff oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr ARGLWYDD DDUW. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai diau ddywedyd o DDUW, Ni chewch chwi fwyta o bob pren o’r ardd? A’r wraig a ddywedodd wrth y sarff, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwyta: Ond am ffrwyth y pren sydd yng nghanol yr ardd, DUW a ddywedodd, Na fwytewch ohono, ac na chyffyrddwch ag ef, rhag eich marw. A’r sarff a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim. Canys gwybod y mae DUW, mai yn y dydd y bwytaoch ohono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth o’i ffrwyth ef, ac a fwytaodd, ac a roddes i’w gŵr hefyd gyda hi, ac efe a fwytaodd. A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wniasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau. A hwy a glywsant lais yr ARGLWYDD DDUW yn rhodio yn yr ardd, gydag awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr ARGLWYDD DDUW, ymysg prennau yr ardd. A’r ARGLWYDD DDUW a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti? Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais. A dywedodd DUW, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchmynaswn i ti na fwyteit ohono, y bwyteaist? Ac Adda a ddywedodd, Y wraig a roddaist gyda mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwyteais. A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum. A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes. Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef. Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhau yr amlhaf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy ŵr, ac efe a lywodraetha arnat ti. Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrando ohonot ar lais dy wraig, a bwyta o’r pren am yr hwn y gorchmynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwyta ohono; melltigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwytei ohoni holl ddyddiau dy einioes. Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwytei di. Trwy chwys dy wyneb y bwytei fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid ohoni y’th gymerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli. A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw. A’r ARGLWYDD DDUW a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd amdanynt hwy.