Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 25

25
Disgynyddion Eraill Abraham
1Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura. 2Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua. 3Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim. 4Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura. 5Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac. 6Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.
Marw Abraham a'i Gladdu
7Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd. 8Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. 9Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre, 10y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara. 11Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.
Disgynyddion Ismael
1 Cron. 1:28–31
12Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara. 13Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam, 14Misma, Duma, Massa, 15Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema. 16Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn ôl eu trefi a'u gwersylloedd. 17Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth. 18Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.
Geni Esau a Jacob
19Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham, 20ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead. 21A gweddïodd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca. 22Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, “Pam y mae fel hyn arnaf?”#25:22 Tebygol. Hebraeg yn aneglur. Aeth i ymofyn â'r ARGLWYDD, 23a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi,
“Dwy genedl sydd yn dy groth,
a gwahenir dau lwyth o'th fru,
bydd y naill yn gryfach na'r llall,
a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.”
24Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth. 25Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau. 26Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob#25:26 H.y., Y mae'n gafael yn sawdl, neu, Yn disodli.. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.
Esau'n Gwerthu ei Enedigaeth-fraint
27Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn ŵr y maes; ond yr oedd Jacob yn ŵr tawel, yn byw mewn pebyll. 28Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.
29Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio. 30A dywedodd Esau wrth Jacob, “Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio.” Dyna pam y galwyd ef Edom#25:30 H.y., Coch. Cymh. adn. 25 uchod.. 31Dywedodd Jacob, “Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint.” 32A dywedodd Esau, “Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?” 33Dywedodd Jacob, “Dos ar dy lw i mi yn awr.” Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob. 34Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.

Dewis Presennol:

Genesis 25: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda