Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed. Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab. Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.” A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab. Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”
Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham, a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab, bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion, a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.” Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.