Genesis 22:9-19
Genesis 22:9-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed. Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab. Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.” A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab. Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.” Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham, a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab, bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion, a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.” Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.
Genesis 22:9-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe’n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor. Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab. Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o’r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? Dyma fi,” meddai Abraham. “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i’n gwybod bellach dy fod ti’n ddyn sy’n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.” Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a’i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab. Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy’n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae’r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto. “Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i’n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti’n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti), dw i’n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. Byddan nhw’n concro dinasoedd eu gelynion. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddwedais i.’” Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw’n teithio gyda’i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.
Genesis 22:9-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai DUW wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni DUW, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH-jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr ARGLWYDD y gwelir. Ac angel yr ARGLWYDD a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.