Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, “Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud; yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi.” A dywedodd Abraham, “Mi af ar fy llw.” Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew dŵr yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais, dywedodd Abimelech, “Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i sôn am y peth cyn heddiw.” Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod. Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd. A gofynnodd Abimelech i Abraham, “Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?” Dywedodd yntau, “Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn.” Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw. Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid. Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol.
Darllen Genesis 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 21:22-33
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos