Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 9

9
Cosbi Jerwsalem
1Yna clywais lais uchel yn dweud, “Dewch â'r rhai sydd i gosbi'r ddinas, pob un ag arf distryw yn ei law.” 2Gwelais chwech o ddynion yn dod o gyfeiriad y porth uchaf, sy'n wynebu'r gogledd, pob un ag arf marwol yn ei law; gyda hwy yr oedd dyn wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg. Daethant i mewn a sefyll gyferbyn â'r allor bres. 3Yna cododd gogoniant Duw Israel i fyny oddi ar y cerwbiaid, lle bu'n aros, a mynd at riniog y deml. Galwodd yr ARGLWYDD ar y dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg, 4a dweud wrtho, “Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a rho nod ar dalcen pob un sy'n gofidio ac yn galaru am yr holl bethau ffiaidd a wneir ynddi.” 5A dywedodd yn fy nghlyw wrth y lleill, “Ewch trwy'r ddinas ar ei ôl ef, a lladdwch; peidiwch â thosturio na thrugarhau. 6Lladdwch hynafgwyr, gwŷr ifainc a llancesi, gwragedd a phlant; ond peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw un sydd â nod arno. Dechreuwch yn fy nghysegr.” A dechreuodd y dynion gyda'r henuriaid oedd o flaen y deml. 7Yna dywedodd wrthynt, “Halogwch y deml, a llanwch y cynteddoedd â'r rhai a laddwyd; ewch allan.” Aethant allan a lladd trwy'r ddinas. 8Tra oeddent yn lladd, a minnau wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a dweud, “O Arglwydd DDUW, a ddistrywi di holl weddill Israel wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?” 9Atebodd fi, “Y mae drygioni tŷ Israel a Jwda yn hynod fawr; y mae'r wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn anghyfiawnder, am eu bod yn dweud, ‘Gadawodd yr ARGLWYDD y wlad; nid yw'r ARGLWYDD yn gweld.’ 10Nid wyf fi am dosturio na thrugarhau; talaf iddynt am eu ffyrdd.” 11A dyna'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg, yn dod â gair yn ôl a dweud, “Yr wyf wedi gwneud fel y gorchmynnaist.”

Dewis Presennol:

Eseciel 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd