Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 10

10
Gogoniant Duw yn Ymadael â'r Deml
1Wrth imi edrych, gwelais yn y ffurfafen uwchben y cerwbiaid rywbeth tebyg i orsedd o faen saffir, yn ymddangos uwchlaw iddynt. 2A dywedodd yr ARGLWYDD wrth y dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, “Dos i mewn rhwng yr olwynion o dan y cerwbiaid, a llanw dy ddwylo â'r marwor tanllyd sydd rhwng y cerwbiaid, a'i wasgar dros y ddinas.” Gwnaeth hynny yn fy ngolwg. 3Yr oedd y cerwbiaid yn sefyll ar ochr dde y deml pan aeth y dyn i mewn, ac yr oedd cwmwl yn llenwi'r cyntedd mewnol. 4Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD wedi codi oddi ar y cerwbiaid a mynd at riniog y deml. Yr oedd y cwmwl yn llenwi'r adeilad, a'r cyntedd yn llawn o ddisgleirdeb gogoniant yr ARGLWYDD. 5Yr oedd sŵn adenydd y cerwbiaid i'w glywed cyn belled â'r cyntedd nesaf allan, fel llais y Duw Hollalluog pan fydd yn llefaru.
6Pan orchmynnodd i'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, a dweud, “Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y cerwbiaid”, fe aeth yntau i mewn a sefyll yn ymyl yr olwyn. 7Yna estynnodd un o blith y cerwbiaid ei law at y tân oedd rhwng y cerwbiaid; cododd beth ohono a'i roi yn nwylo'r dyn oedd wedi ei wisgo â lliain; cymerodd yntau ef a mynd allan. 8O dan adenydd y cerwbiaid fe welid rhywbeth tebyg i law ddynol.
9Wrth imi edrych, gwelais hefyd bedair olwyn yn ymyl y cerwbiaid, un olwyn yn ymyl pob cerwb; yr oedd ymddangosiad yr olwynion yn debyg i eurfaen disglair. 10O ran ymddangosiad yr oedd y pedair yn debyg i'w gilydd, fel pe bai olwyn oddi mewn i olwyn. 11Pan symudent, fe aent i un o'r pedwar cyfeiriad, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. Fe âi'r cerwbiaid i ble bynnag yr oedd y pen yn wynebu, ond nid oeddent yn troi o'u llwybr wrth fynd. 12Yr oedd eu holl gorff—eu cefnau, eu dwylo a'u hadenydd—a'r olwynion hefyd, y pedair ohonynt, yn llawn o lygaid. 13Ac am yr olwynion, fe'u galwyd yn fy nghlyw yn chwyrnellwyr. 14Yr oedd gan bob un o'r cerwbiaid bedwar wyneb: y cyntaf yn wyneb cerwb; yr ail yn wyneb dyn; y trydydd yn wyneb llew; y pedwerydd yn wyneb eryr. 15Yna fe gododd y cerwbiaid i fyny; dyma'r creaduriaid a welais wrth afon Chebar. 16Pan symudai'r cerwbiaid, fe symudai'r olwynion wrth eu hochr; pan estynnai'r cerwbiaid eu hadenydd i godi oddi ar y ddaear, nid oedd yr olwynion yn ymadael â hwy. 17Pan safent, fe safent hwythau, a phan godent, fe godent hwythau, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.
18Yna symudodd gogoniant yr ARGLWYDD o fod uwchben rhiniog y deml, ac arhosodd uwchben y cerwbiaid. 19Estynnodd y cerwbiaid eu hadenydd a chodi oddi ar y ddaear yn fy ngŵydd, ac fel yr oeddent yn mynd yr oedd yr olwynion yn mynd gyda hwy. Ond bu iddynt aros wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ'r ARGLWYDD, ac yr oedd gogoniant Duw Israel yno uwch eu pennau.
20Dyma'r creaduriaid a welais dan Dduw Israel wrth afon Chebar, a sylweddolais mai cerwbiaid oeddent. 21Yr oedd gan bob un bedwar wyneb, a chan bob un bedair adain, gyda rhywbeth tebyg i law ddynol dan eu hadenydd. 22Yr oedd eu hwynebau yn debyg o ran ymddangosiad i'r wynebau a welais wrth afon Chebar; yr oedd pob un ohonynt yn symud yn syth yn ei flaen.

Dewis Presennol:

Eseciel 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd