Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 42

42
Adeiladau gerllaw'r Deml
1Yna aeth y dyn â mi allan tua'r gogledd i'r cyntedd nesaf allan, ac arweiniodd fi i'r ystafelloedd oedd gyferbyn â chwrt y deml a'r adeilad tua'r gogledd. 2Hyd yr adeilad â'i ddrws tua'r gogledd oedd can cufydd, a'i led yn hanner can cufydd. 3Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn â phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr. 4O flaen yr ystafelloedd yr oedd llwybr caeedig, deg cufydd o led a chan cufydd o hyd.#42:4 Felly Fersiynau. Hebraeg, a ffordd o un cufydd. Yr oedd eu drysau tua'r gogledd. 5Yr oedd yr ystafelloedd uchaf yn gulach, gan fod yr orielau yn tynnu mwy oddi arnynt hwy nag oddi ar yr ystafelloedd ar loriau isaf a chanol yr adeilad. 6Nid oedd colofnau i ystafelloedd y trydydd llawr, fel yn y cynteddau, ac felly yr oedd eu lloriau'n llai na rhai'r lloriau isaf a chanol. 7Yr oedd y mur y tu allan yn gyfochrog â'r ystafelloedd, a chyferbyn â hwy, ac yn ymestyn i gyfeiriad y cyntedd nesaf allan; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd. 8Yr oedd y rhes ystafelloedd ar yr ochr nesaf at y cyntedd allanol yn hanner can cufydd o hyd, a'r rhai ar yr ochr nesaf i'r cysegr yn gan cufydd. 9Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan, 10lle mae'r mur allanol yn cychwyn#42:10 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg, lled..
Tua'r de#42:10 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg, dwyrain., gyferbyn â'r cwrt a chyferbyn â'r adeilad, yr oedd ystafelloedd, 11gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd 12yn debyg i ddrysau'r ystafelloedd yn y de. Ar ben y llwybr, yr oedd drws yn y mur mewnol i gyfeiriad y dwyrain, er mwyn dod i mewn.
13Yna dywedodd wrthyf, “Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw. 14Pan fydd yr offeiriaid wedi dod i mewn i'r cysegr, nid ydynt i fynd allan i'r cyntedd nesaf allan heb adael ar ôl y gwisgoedd a oedd ganddynt wrth wasanaethu, oherwydd y maent yn sanctaidd. Y maent i wisgo dillad eraill i fynd allan lle mae'r bobl.”
Mesuriadau Safle'r Deml
15Wedi iddo orffen mesur oddi mewn i safle'r deml, aeth â mi allan trwy'r porth oedd i gyfeiriad y dwyrain, a mesur yr hyn oedd oddi amgylch. 16Mesurodd ochr y dwyrain â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd. 17Mesurodd ochr y gogledd â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd. 18Mesurodd ochr y de â'r ffon fesur, a chael y mesur yn bum can cufydd. 19Aeth drosodd i ochr y gorllewin, a mesurodd â'r ffon fesur bum can cufydd. 20Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.

Dewis Presennol:

Eseciel 42: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda