Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 38

38
Proffwydo yn erbyn Gog
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Gog yn nhir Magog, prif dywysog Mesach a Tubal; proffwyda yn ei erbyn, 3a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn di, Gog, prif dywysog Mesach a Tubal; 4byddaf yn dy droi'n ôl, yn rhoi bachau yn dy safn ac yn dy dynnu allan—ti, a'th holl fyddin, yn feirch a marchogion, y cyfan ohonynt yn llu mawr arfog, â bwcled a tharian, a phob un yn chwifio'i gleddyf. 5Bydd Persia, Ethiopia a Libya gyda hwy, oll â tharianau a helmedau; 6Gomer hefyd a'i holl fyddin, a Beth-togarma o bellterau'r gogledd a'i holl fyddin; bydd pobloedd lawer gyda thi.
7“ ‘Bydd barod ac ymbaratoa, ti a'r holl fyddinoedd sydd o'th amgylch, a byddi'n eu gwarchod. 8Ar ôl dyddiau lawer fe'th gynullir, ac mewn blynyddoedd i ddod byddi'n mynd yn erbyn gwlad sydd wedi ei hadfer ar ôl rhyfel, a'i phobl wedi eu casglu o blith llawer o genhedloedd ar fynyddoedd Israel, lle bu diffeithwch cyhyd; fe'u dygwyd allan o blith y bobloedd, ac yn awr y maent i gyd yn byw'n ddiogel. 9Byddi di a'th holl fyddin, a phobloedd lawer gyda thi, yn mynd i fyny ac yn ymdaith fel storm; byddi fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear.
10“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw fe ddaw syniadau i'th feddwl, a byddi'n dyfeisio cynllun drygionus, 11ac yn dweud, “Af i fyny yn erbyn gwlad o bentrefi diamddiffyn, ac ymosod ar bobl heddychol sy'n byw'n ddiogel—pob un ohonynt yn byw heb furiau na barrau na phyrth. 12Fe ysbeiliaf ac fe anrheithiaf; trof fy llaw yn erbyn yr adfeilion a gyfanheddwyd, ac yn erbyn y bobl a gasglwyd o blith y cenhedloedd ac sydd yn meddu da ac eiddo ac yn byw yng nghanol y wlad.” 13Bydd Sheba a Dedan, a marchnatwyr Tarsis a'i holl bentrefi, yn dweud wrthynt, “Ai i anrheithio y daethost? A gesglaist dy lu i ysbeilio, i gymryd arian ac aur, i gipio da ac eiddo, i gymryd llawer o ysbail?’ ”
14“Felly, fab dyn, proffwyda a dywed wrth Gog, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y diwrnod hwnnw, pan fydd fy mhobl Israel yn byw'n ddiogel, oni fyddi'n cyffroi?#38:14 Felly Groeg. Hebraeg, oni fyddi'n gwybod? 15Fe ddoi o'th le ym mhellterau'r gogledd, ti a phobloedd lawer gyda thi, i gyd yn marchogaeth ar geffylau, yn llu mawr ac yn fyddin gref. 16Doi i fyny yn erbyn fy mhobl Israel fel cwmwl yn gorchuddio'r ddaear. Mewn dyddiau i ddod, O Gog, fe'th ddygaf yn erbyn fy nhir, er mwyn i'r cenhedloedd f'adnabod pan amlygaf fy sancteiddrwydd trwoch chwi yn eu gŵydd.
17“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Onid ti yw'r un y dywedais amdano yn y dyddiau gynt trwy fy ngweision, proffwydi Israel, a fu yr amser hwnnw yn proffwydo am flynyddoedd y dygwn di yn eu herbyn? 18Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn dod yn erbyn tir Israel, fe gwyd dicter fy llid, medd yr Arglwydd DDUW. 19Yn fy eiddigedd a gwres fy nig cyhoeddaf y bydd, y diwrnod hwnnw, ddaeargryn mawr yng ngwlad Israel. 20Bydd popeth yn crynu o'm blaen—pysgod y môr, adar yr awyr, yr anifeiliaid gwylltion, holl ymlusgiaid y tir, a phob meidrolyn ar wyneb y ddaear; dymchwelir y mynyddoedd, syrth y creigiau, a bwrir pob mur i'r llawr. 21Galwaf am bob math o ddychryn#38:21 Felly Groeg. Hebraeg, Galwaf ar fy holl fynyddoedd am gleddyf. yn erbyn Gog, medd yr Arglwydd DDUW. Bydd cleddyf pob un yn erbyn ei gymydog; 22dof i farn yn ei erbyn â haint ac â gwaed; tywalltaf lawogydd trymion, cenllysg, tân a brwmstan arno ef a'i fyddin a'r bobloedd lawer sydd gydag ef. 23Amlygaf fy mawredd a'm sancteiddrwydd, a gwnaf fy hun yn wybyddus yng ngolwg llawer o genhedloedd. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

Dewis Presennol:

Eseciel 38: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda