Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 32

32
Galarnad am Pharo
1Ar y dydd cyntaf o'r deuddegfed mis yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;
2“Fab dyn, cod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho,
‘Yr wyt fel llew ymysg y cenhedloedd.
Yr wyt fel draig yn y moroedd,
yn ymdroelli yn d'afonydd,
yn corddi dŵr â'th draed,
ac yn maeddu ei ffrydiau.
3“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
 thyrfa fawr o bobl fe daflaf fy rhwyd drosot,
ac fe'th godant i fyny ynddi.
4Fe'th luchiaf ar y ddaear,
a'th daflu ar y maes agored,
a gwneud i holl adar y nefoedd ddisgyn arnat,
a diwallu'r holl anifeiliaid gwylltion ohonot.
5Gwasgaraf dy gnawd ar y mynyddoedd,
a llenwi'r dyffrynnoedd â'th weddillion#32:5 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, â'th uchder..
6Mwydaf y ddaear hyd at y mynyddoedd
â'r gwaed fydd yn llifo ohonot,
a bydd y cilfachau yn llawn ohono.
7Pan ddiffoddaf di, gorchuddiaf y nefoedd
a thywyllu ei sêr;
cuddiaf yr haul â chwmwl,
ac ni rydd y lloer ei goleuni.
8Tywyllaf holl oleuadau disglair y nefoedd uwch dy ben,
ac fe'i gwnaf yn dywyll dros dy dir,’ medd yr Arglwydd DDUW.
9“ ‘Gofidiaf galon llawer o bobl pan af â thi i gaethglud#32:9 Felly Groeg. Hebraeg, pan ddinistriaf di. ymysg y cenhedloedd, i wledydd nad wyt yn eu hadnabod. 10Gwnaf i lawer o bobl frawychu o'th achos, a bydd eu brenhinoedd yn crynu mewn braw o'th blegid pan ysgydwaf fy nghleddyf o'u blaenau; byddant yn ofni am eu heinioes bob munud ar ddydd dy gwymp. 11Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Daw cleddyf brenin Babilon yn dy erbyn.
12Gwnaf i'th finteioedd syrthio trwy gleddyfau'r rhai cryfion,
y greulonaf o'r holl genhedloedd.
Dymchwelant falchder yr Aifft,
ac fe ddifethir ei holl finteioedd.
13Dinistriaf ei holl wartheg o ymyl y dyfroedd;
ni fydd traed dynol yn eu corddi mwyach,
na charnau anifeiliaid yn eu maeddu.
14Yna gwnaf eu dyfroedd yn groyw,
a bydd eu hafonydd yn llifo fel olew,’ medd yr Arglwydd DDUW.
15‘Pan wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith,
a dinoethi'r wlad o'r hyn sydd ynddi;
pan drawaf i lawr bawb sy'n byw ynddi,
yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
16Dyma'r alarnad a lafargenir amdani; merched y cenhedloedd fydd yn ei chanu, ac am yr Aifft a'i holl finteioedd y canant hi,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
Gyda'r Meirw yn y Pwll
17Ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf#32:17 Felly Groeg. Hebraeg heb cyntaf. yn y ddeuddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18“Fab dyn, galara am finteioedd yr Aifft, a bwrw hi i lawr, hi a merched y cenhedloedd cryfion, i'r tir isod gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
19‘A gei di ffafr rhagor nag eraill?
Dos i lawr, a gorwedd gyda'r dienwaededig.
20Syrthiant gyda'r rhai a leddir â'r cleddyf;
tynnwyd y cleddyf, llusgir hi a'i minteioedd ymaith.
21O ganol Sheol fe ddywed y cryfion amdani hi a'i chynorthwywyr,
“Daethant i lawr a gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf.”
22Y mae Asyria a'i holl luoedd yno,
ac o'i hamgylch feddau'r lladdedigion,
yr holl rai a laddwyd â'r cleddyf.
23Y mae eu beddau yn nyfnder y pwll,
ac y mae ei holl lu o amgylch ei bedd;
y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw
wedi syrthio trwy'r cleddyf.
24Y mae Elam a'i holl luoedd o amgylch ei bedd,
i gyd wedi eu lladd a syrthio trwy'r cleddyf;
y mae'r holl rai a fu'n achosi braw yn nhir y byw
i lawr yn y tir isod gyda'r dienwaededig,
ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
25Gwnaed gwely iddi ymysg y lladdedigion,
gyda'i holl luoedd o amgylch ei bedd;
y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf.
Am iddynt achosi braw yn nhir y byw,
y maent yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,
ac yn gorwedd ymysg y lladdedigion.
26Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,
y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,
am iddynt achosi braw yn nhir y byw.
27Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,
a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,
a rhoi eu harfau dan eu pennau?
Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,
oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.
28Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf. 29Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll. 30Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll. 31Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd—Pharo a'i holl lu, a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW. 32‘Oherwydd achosodd#32:32 Tebygol. Hebraeg, achosais. fraw trwy holl dir y byw, ac fe'i rhoir i orwedd, ef a'i holl finteioedd, ymysg y dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Dewis Presennol:

Eseciel 32: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda