Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 29

29
Proffwydo yn erbyn yr Aifft
1Ar y deuddegfed dydd o'r degfed mis yn y ddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, tro dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef ac yn erbyn yr Aifft gyfan. 3Llefara a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Yr wyf yn dy erbyn, O Pharo, brenin yr Aifft,
y ddraig fawr sy'n ymlusgo yng nghanol ei hafonydd,
ac yn dweud, “Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth.”
4Rhof fachau yn dy safn,
a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen;
tynnaf di i fyny o ganol dy afonydd
gyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.
5Fe'th fwriaf i'r anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd;
syrthi ar wyneb y ddaear heb dy gasglu na'th gladdu#29:5 Felly llawysgrifau. TM, gynnull.;
rhof di'n fwyd i'r anifeiliaid gwylltion a'r adar.
6Yna bydd holl drigolion yr Aifft yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, oherwydd iti#29:6 Felly Fersiynau. Hebraeg, iddynt. fod yn ffon o frwyn i dŷ Israel. 7Pan gydiodd yr Aifft ynot â'i law, torraist eu hysgwyddau a'u niweidio; pan bwysodd arnat, torraist ac ysigo#29:7 Felly Fersiynau. Hebraeg, a pheri sefyll. eu llwynau. 8Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf am ddwyn cleddyf arnat a thorri ymaith ohonot ddyn ac anifail; bydd gwlad yr Aifft yn anrhaith ac yn ddiffeithwch. 9Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. Oherwydd iti#29:9 Felly Fersiynau. Hebraeg, iddo. ddweud, “Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth”, 10am hynny yr wyf yn dy erbyn ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf wlad yr Aifft yn ddiffeithwch llwyr ac yn dir anrheithiedig o Migdol hyd Aswan, hyd derfyn Ethiopia. 11Ni throedia dyn nac anifail trwyddi, ac fe fydd yn anghyfannedd am ddeugain mlynedd. 12Fe wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd ei dinasoedd yn anrheithiedig am ddeugain mlynedd ymysg dinasoedd anghyfannedd. Byddaf yn gwasgaru'r Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.
13“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar derfyn deugain mlynedd fe gasglaf yr Eifftiaid o blith y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, 14ac fe adferaf lwyddiant yr Aifft, a'u dychwelyd i wlad Pathros, gwlad eu hynafiaid, ac yno byddant yn deyrnas fechan. 15Hi fydd yr isaf o'r teyrnasoedd, ac ni ddyrchafa mwy goruwch y cenhedloedd; fe'i gwnaf mor fychan fel na lywodraetha eto dros y cenhedloedd. 16Ni fydd yr Aifft mwyach yn hyder i dŷ Israel, ond bydd yn eu hatgoffa o'u trosedd gynt, yn troi ati am gymorth. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.’ ”
17Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yn y seithfed flwyddyn ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18“Fab dyn, gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon i'w fyddin lafurio'n galed yn erbyn Tyrus, nes bod pob pen yn foel a phob ysgwydd yn ddolurus, ond ni chafodd ef na'i fyddin elw o Tyrus am eu llafur caled. 19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am roi gwlad yr Aifft i Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd yn cymryd ei chyfoeth; yr anrhaith a gymer a'r ysbail a ladrata ohoni fydd y tâl i'w fyddin. 20Rhoddais iddo wlad yr Aifft yn gyflog am ei waith, oherwydd i mi y buont yn gweithio,’ medd yr Arglwydd DDUW.
21“ ‘Y dydd hwnnw, paraf i gorn dyfu i dŷ Israel, a gwnaf iti agor dy enau yn eu mysg, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Dewis Presennol:

Eseciel 29: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda