Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 27

27
Galarnad am Tyrus
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Fab dyn, cod alarnad am Tyrus. 3Dywed wrth Tyrus sydd wrth fynedfa'r môr, marsiandwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
Yr wyt ti, O Tyrus, yn dweud,
“Yr wyf fi'n berffaith mewn prydferthwch.”
4Y mae dy derfynau yng nghanol y moroedd;
gwnaeth dy adeiladwyr dy brydferthwch yn berffaith.
5Gwnaethant dy holl waith coed o binwydd Senir,
a chymryd cedrwydd Lebanon i wneud hwylbren iti.
6Gwnaethant dy rwyfau o dderw Basan,
a'th fwrdd o binwydd goror Chittim,
wedi ei addurno ag ifori.
7Lliain wedi ei frodio o'r Aifft oedd dy hwyliau,
ac yn gwneud baner iti;
yr oedd dy gysgodlenni yn las a phorffor
o ororau Elisa.
8Gwŷr Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr,
ac yr oedd ynot ti, O Tyrus, wŷr medrus
â'u llaw ar y llyw.
9Yr oedd gwŷr profiadol a medrus o Gebal
ar dy fwrdd i gyweirio'r agennau;
yr oedd holl longau'r môr a'u dynion
yn dod atat i farchnata dy nwyddau.
10Yr oedd gwŷr Persia, Lydia a Phut
yn filwyr yn dy fyddin,
yn crogi eu tarianau a'u helmedau ynot;
ac yr oeddent yn dy wneud yn hardd.
11Yr oedd gwŷr Arfad a Helech ar dy furiau o amgylch,
a gwŷr Gammad yn dy dyrau;
yr oeddent yn crogi eu tarianau ar dy furiau,
ac yn gwneud dy brydferthwch yn berffaith.
12“ ‘Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau. 13Jafan, Tubal a Mesech oedd dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid caethweision a llestri pres yn dy farchnad. 14Yr oedd rhai o Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod am dy nwyddau. 15Yr oedd gwŷr Rhodos#27:15 Felly Groeg. Hebraeg, Dedan. yn farsiandïwyr i ti, ac ynysoedd lawer yn marchnata gyda thi, ac yn rhoi'n dâl iti gyrn ifori ac eboni. 16Yr oedd Aram yn marchnata gyda thi am fod gennyt ddigon o nwyddau, ac yn rhoi glasfeini, porffor, brodwaith, lliain, cwrel a gemau yn gyfnewid am dy nwyddau. 17Yr oedd Jwda a gwlad Israel hefyd ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid gwenith o Minnith, ŷd, mêl, olew a balm yn dy farchnad. 18Am fod gennyt ddigon o nwyddau a chyfoeth, yr oedd Damascus yn marchnata gyda thi win o Helbon a gwlân o Sahar. 19Yr oedd Dan a Jafan o Usal yn rhoi haearn gyr, casia a chalamus yn gyfnewid am nwyddau yn dy farchnad. 20Yr oedd Dedan yn marchnata brethynnau ar gyfer dy gyfrwyau. 21Yr oedd Arabia a holl dywysogion Cedar yn bargeinio â thi ac yn cyfnewid ŵyn, hyrddod a geifr. 22Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur. 23Yr oedd Haran, Canne, Eden a marsiandïwyr Sheba, Asyria a Chilmad yn marchnata gyda thi. 24Yn dy farchnadoedd yr oeddent yn marchnata gwisgoedd heirdd, brethynnau gleision, brodwaith, a charpedi amryliw mewn rheffynnau wedi eu troi a'u clymu. 25Llongau Tarsis oedd yn cludo dy nwyddau.
Llanwyd di â llwyth trwm
yng nghanol y moroedd.
26Aeth dy rwyfwyr â thi allan
i'r moroedd mawr,
ond y mae gwynt y dwyrain wedi dy ddryllio
yng nghanol y moroedd.
27“ ‘Bydd dy gyfoeth, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy longwyr, dy seiri llongau, dy farchnatawyr, dy holl filwyr, a phawb arall sydd ar dy fwrdd yn suddo yng nghanol y môr y diwrnod y dryllir di.
28“ ‘Pan glywir cri dy longwyr,
bydd yr arfordir yn crynu.
29Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,
a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,
30yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,
yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.
31Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;
wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.
32Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:
“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?
33Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,
yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;
trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddau
gwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.
34Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môr
yn nyfnder y dyfroedd;
aeth dy nwyddau a'th holl fintai
i lawr i'th ganlyn.
35Brawychwyd holl drigolion yr ynysoedd o'th achos;
y mae eu brenhinoedd yn crynu gan ofn,
a phryder ar eu hwynebau.
36Y mae marsiandïwyr y cenhedloedd wedi eu syfrdanu o'th blegid;
aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.” ’ ”

Dewis Presennol:

Eseciel 27: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda